Datganiad Hygyrchedd

Datganiad o Fwriad
Mae Gwesty'r Castell yn westy bach, bwyty a bar sy'n cynnig gwasanaeth cyfeillgar sy'n ymateb i anghenion cwsmeriaid.

Er y gall terfyniadau ffisegol yr adeilad presennol effeithio ar yr hyn y gall Gwesty'r Castell ei wneud, mae Gwesty'r Castell yn bwriadu cydymffurfio'n llawn â rheoliadau cyfredol ac arferion da. Mae Gwesty'r Castell yn dymuno gwneud llawr gwaelod yr adeilad mor hygyrch â phosibl, yn unol â Pholisi Cynllunio lleol a'r ymrwymiadau a osodir ar Westy'r Castell fel darparwyr gwasanaeth o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

O ran ymrwymiadau rheolaeth parhaus Gwesty'r Castell o dan y Ddeddf, mae'r cwmni yn bwriadu cynnal hyfforddiant staff rheolaidd er mwyn sicrhau gwasanaeth hygyrch parhaus. Mae natur yr adeilad a materion cadwraeth yn golygu nad yw'n bosibl i'r llawr uchaf fod yn hollol hygyrch.

Mae Gwesty'r Castell yn bwriadu ceisio adborth gan gleientiaid rheolaidd ar ffurf trafodaethau anffurfiol a holiadur byr.

Mynediad
Mae mynediad gwastad o lefel y stryd i brif fynedfa Bar y Gwesty.

Croesewir Cŵn Tywys yn y Bar a'r Bwyty.

Parcio Ceir
Mae modd parcio ceir ar y stryd ger y Gwesty.

Hefyd mae Maes Parcio Cyhoeddus gyda llefydd arbennig i Ddeiliaid Bathodyn Glas o fewn cyrraedd hawdd.

Man Gwasanaeth Cownter
Nid oes darpariaeth ar gyfer cownter isel wrth y bar. Bydd gwasanaeth / cymorth bwrdd ar gael i gwsmeriaid na allant gludo / casglu diodydd yn ddiogel o'r bar i'r byrddau.

Bydd dodrefn rhydd yn cael eu symud gan staff fel y bo angen i sicrhau mynediad clir a diogel.

Gall y goleuadau dros y dderbynfa gael ei gynyddu i helpu staff a phobl sydd angen lefel uwch o oleuni i ddarllen gwefusau.

Bydd staff y gwesty yn helpu cludo bagiau cwsmeriaid os oes angen.

Toiledau
Mae'r cyfleusterau ar y llawr gwaelod yn cynnwys toiled i'r anabl. Mae lle a chynllun y toiled yn bodloni gofynion rheoliadau adeiladu lleol.

Addurno
Bydd y cynllun lliw yn cael ei ddewis i dynnu sylw at waliau, lloriau, drysau cownter a gwaith haearn.

Gwacáu
Mewn achos brys, bydd cwsmeriaid yn gadael trwy'r drws mynediad. Mae allanfa arall yn hollol hygyrch hefyd. Bydd staff yn cael hyfforddiant sylfaenol mewn gweithdrefnau gwacáu a byddant yn atebol am gael cwsmeriaid o'r adeilad. Ceir system larwm tân.

Drysau Allanfa
Mae drysau tân mewn lleoliadau gwahanol wedi'u ffitio â dolen lifer mawr gydag arwyddion "Allanfa Dân".

Hyfforddiant Staff
Mae hyfforddiant staff mewn ymwybyddiaeth anabledd yn mynd rhagddo fel rhan o raglen datblygu staff parhaus Gwesty'r Castell.

Arall
Lleolir Gwesty'r Castell yng nghanol Aberaeron. Mae gwasanaeth tacsi lleol yn Aberaeron y gallwn ei fwcio i chi yn y dderbynfa. Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn y dref i bob cyfeiriad. Yr orsaf drenau agosaf yw Aberystwyth - 16 milltir i ffwrdd.

Special Offers

Nodwch fod ein bwyty yn cael ei hail drefnu ac ar gau hyd nes y glywir yn wahanol. Fodd bynnag, mae'r Caffi/Bar ar agor a byddwn yn gweini cinio a byrbrydau ysgafn yn ystod y dydd

Restaurant Food